Aelodau yng Nghymru Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Start:24 February 2014
Time:18.30
LocationTransport House, 1 Ffordd y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SD
Download as vCalendar (for Microsoft Outlook etc.)
Details
Gwahoddir pob aelod sy’n byw yng Nghymru i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol aelodau yng Nghymru ar Nos Lun 24 Chwefror 2014 am 6.30 o’r gloch yn Transport House, 1 Ffordd y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SD
Mi fydd Christine Payne, Ysgrifennydd Cyffredinol Equity, a Swyddog o'r undeb yn bresennol
Dyma eich cyfle chi i ddylanwadu ar bolisiau Equity. Mae hawl gan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymru gyflwyno un Cynnig i Gynhadledd Gynrychioliadol flynyddol Equity. Gellir hefyd danfon Cynigion at Gyngor Equity.
Os hoffech gyflwyno cynnig gerbron Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymru yna dylid danfon copi ysgrifenedig at: Simon Curtis, Ysgrifennydd Cenedlaethol Cymru, Equity, Transport House, 1 Ffordd y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SD (cymru@equity.org.uk) erbyn hanner dydd Llun 17fed Chwefror 2014
Mae’r hawl gan bod aelod ac aelod-fyfyriwr gyda chyfeiriad parhaol yng Nghymru, sydd wedi talu’r tanysgrifiad blynyddol, fynychu’r cyfarfod, pleidleisio, cynnig ac eilio cynigion. Gall unrhyw aelod sy’n gweithio yng Nghymru, ond na sydd yn byw yma’n barhaol, ddod i’r cyfarfod a siarad, ond ni fydd ganddo/hi’r hawl i belidleisio, na chynnig nac eilio cynigion. Mi fydd mynediad i’r cyfarfod trwy garden Equity ddilys yn unig.
Fydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael
Byddai’n ddefnyddiol pe fuasech yn dod a’ch copi o gyfrifion yr Undeb ar gyfer 2013, a ddosbarthwyd gyda rhifyn y Gwanwyn o gylchgrawn Equity, i’r cyfarfod.