Why culture matters
Culture is not a luxury.
Culture is work.
Darllenwch y dudalen hon yn Gymraeg/Read this page in Welsh
Every day, thousands of people across Wales earn their living creating, performing, producing, teaching, designing, and sustaining our cultural life. Their work underpins our language, our communities, our wellbeing, and our economy.
The arts, creative and media sectors are part of Wales’s foundational economy — rooted in people, place, and public value. Yet the people who make culture possible too often face low pay, insecure contracts, unsafe conditions, and chronic instability.
A cultural nation cannot be built on insecurity.
Ahead of the Senedd election on 7 May 2026, we are asking candidates to back our manifesto setting out five pledges to ensure culture in Wales is treated as essential infrastructure — funded sustainably, built on fair work, and open to everyone.
The Five Pledges
Pledge 1 — Cultural leadership and democratic control
Treat culture as essential national infrastructure by supporting strong political leadership and democratic control over cultural decision-making in Wales. This includes a Cabinet Secretary for Culture & Arts, further exploration of broadcasting devolution, and ensuring Welsh stories, language, and creative workers are supported locally.
Pledge 2 — Sustainable investment in culture
Commit to long-term public investment in culture as part of Wales’s foundational economy. This includes working towards funding equivalent to 0.5% of GDP, supporting a Culture Bill to protect funding from political cycles, replacing “Priorities for Culture” with a properly funded national strategy, and ensuring fair distribution of resources across communities, languages, and artforms.
Pledge 3 — Fair work and workforce voice
Strengthen and embed the Arts, Creative & Media Sector Workforce Social Partnership so fair pay, safe conditions, and trade union standards are a normal condition of publicly funded cultural work. Cultural labour must be treated as skilled professional work, not voluntary or disposable.
Pledge 4 — Equality and class justice
Remove structural barriers in the cultural sector by recognising class-based inequality, extending the Socio-Economic Duty to cultural bodies, and strengthening equality standards so creativity is accessible to everyone, regardless of background or income.
Pledge 5 — Economic security for creative lives
Support measures that provide economic security for creative workers, including Universal Basic Income, so freelancers and artists can build sustainable careers and live with dignity in Wales.
Culture is work.
Work deserves dignity.
And dignity is the foundation of a cultural nation.
Etholiad y Senedd 2026: Diwylliant yw Gwaith
Wrth i ni nesáu at etholiadau’r Senedd ym mis Mai, rydym yn galw ar ymgeiswyr i gefnogi ein maniffesto sy’n galw am drin diwylliant yng Nghymru fel seilwaith hanfodol.

Pam mae Diwylliant yn Bwysig
Nid moethusrwydd yw diwylliant.
Dywilliant yw gwaith.
Bob dydd, mae miloedd o bobl ledled Cymru yn ennill eu bywoliaeth drwy greu, perfformio, cynhyrchu, addysgu, dylunio, a chynnal ein bywyd diwylliannol. Mae eu gwaith yn sail i’n hiaith, ein cymunedau, ein llesiant a’n heconomi.
Mae’r sectorau celfyddydau, creadigol a chyfryngau yn rhan annatod o economi sylfaenol Cymru — wedi’u gwreiddio mewn pobl, lle a gwerth cyhoeddus. Eto i gyd, mae’r bobl sy’n gwneud diwylliant yn bosibl yn rhy aml yn wynebu cyflogau isel, contractau ansicr, amodau anniogel, ac ansefydlogrwydd cronig.
Ni ellir adeiladu cenedl ddiwylliannol ar ansicrwydd.
Yn dilyn etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026, rydym yn gofyn i ymgeiswyr gefnogi ein maniffesto sy’n nodi pum addewid i sicrhau bod diwylliant yng Nghymru yn cael ei drin fel seilwaith hanfodol — wedi’i ariannu’n gynaliadwy, wedi’i seilio ar waith teg, ac yn agored i bawb.
Y Pum Addewid
Addewid 1 — Arweinyddiaeth ddiwylliannol a rheolaeth ddemocrataidd
Trin diwylliant fel seilwaith cenedlaethol hanfodol drwy gefnogi arweinyddiaeth wleidyddol gref a rheolaeth ddemocrataidd dros benderfyniadau diwylliannol yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a’r Celfyddydau, archwilio ymhellach ddatganoli darlledu, a sicrhau bod straeon Cymru, yr iaith Gymraeg, a gweithwyr creadigol yn cael eu cefnogi’n lleol.
Addewid 2 — Buddsoddiad cynaliadwy mewn diwylliant
Ymrwymo i fuddsoddiad cyhoeddus hirdymor mewn diwylliant fel rhan o economi sylfaenol Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio tuag at gyllid sy’n gyfwerth â 0.5% o GDP, cefnogi Bil Diwylliant i amddiffyn cyllid rhag cylchoedd gwleidyddol, disodli “Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant” gyda strategaeth genedlaethol wedi’i hariannu’n briodol, a sicrhau dosbarthiad teg o adnoddau ar draws cymunedau, ieithoedd a ffurfiau celf.
Addewid 3 — Gwaith teg a llais y gweithlu
Cryfhau ac ymgorffori Partneriaeth Gymdeithasol Gweithlu’r Sector Celfyddydau, Creadigol a Chyfryngau fel bod tâl teg, amodau diogel a safonau undebau llafur yn amod arferol ar waith diwylliannol a ariennir yn gyhoeddus. Rhaid trin llafur diwylliannol fel gwaith proffesiynol medrus — nid fel rhywbeth gwirfoddol nac y gellir ei waredu.
Addewid 4 — Cydraddoldeb a chyfiawnder dosbarth
Dileu rhwystrau strwythurol yn y sector diwylliannol drwy gydnabod anghydraddoldeb dosbarth, ymestyn y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol i gyrff diwylliannol, a chryfhau safonau cydraddoldeb fel bod creadigrwydd yn hygyrch i bawb, waeth beth fo cefndir neu incwm.
Addewid 5 — Sicrwydd economaidd ar gyfer bywydau creadigol
Cefnogi mesurau sy’n darparu sicrwydd economaidd i weithwyr creadigol, gan gynnwys Incwm Sylfaenol Cyffredinol, fel y gall gweithwyr llawrydd ac artistiaid adeiladu gyrfaoedd cynaliadwy a byw gydag urddas yng Nghymru.
Diwylliant yw gwaith.
Mae gwaith yn haeddu urddas.
Ac urddas yw sylfaen cenedl ddiwylliannol.
Question?/Cwestiwn?
Contact cymru@equity.org.uk with any questions.
Cysylltwch â cymru@equity.org.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau