Equity members working under the TAC/Equity Television Agreement have voted to adopt a major new agreement setting minimum rates of pay, terms and conditions for performers working on productions commissioned for S4C.
The updated agreement, negotiated between Equity and Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) – the trade body for the independent TV production sector in Wales – represents the most significant modernisation of the agreement in many years and reflects major changes in television production, digital distribution, audience viewing habits and emerging technologies.
The agreement was approved by Equity members who had worked on the TAC agreement in the last five years, in a ballot which opened on 12 May and closed on 22 May 2026. Members voted 100% in favour of adopting the new terms.
The new agreement will remain in force until 31 December 2027, although there will be new minimum rates of pay for 2027 following negotiations scheduled to begin in August 2026.
New improvements for performers
The agreement includes what is believed to be one of the first collective agreements of its kind in the UK to establish specific protections governing the use of artificial intelligence in television production.
The new AI provisions make clear that performers’ voices, likenesses and performances cannot be digitally recreated, reused or exploited without prior informed consent and appropriate contractual safeguards. The agreement also establishes greater transparency around the use of AI technologies and reinforces the principle that technology should support creative work, not undermine performers’ rights, livelihoods or dignity.
Alongside these protections, the agreement delivers a 7.5% increase in minimum fees, implemented from July 2025, as well as a broad package of improvements to working conditions, access and inclusion protections, pensions, intimacy provisions and digital rights arrangements.
The revised agreement also supports the continuing evolution of Welsh-language public service media in a rapidly changing digital environment. New trial provisions covering extended digital availability on platforms such as S4C Clic, BBC iPlayer and authorised online channels establish updated payment structures linked to changing audience behaviour and the growing importance of streaming and on-demand viewing.
The agreement introduces a two-year trial framework for extended digital availability and digital-use-only commissioning, creating new collective payment arrangements while allowing Equity, TAC and S4C to jointly review how these models operate as audience consumption continues to evolve.
Other improvements include:
- New protections and guidance around dignity at work, access and inclusion
- Updated intimacy provisions and safeguarding measures
- Clearer protections around special stipulations and working hours
- Improved pension contribution arrangements
- Formal recognition of Choreographers and Movement Directors within the agreement
- New sustainability provisions aligned with Equity’s Green Rider principles
Simon Curtis, National Official for Wales, Equity, said:
“This agreement represents a significant step forward for performers working across Welsh television production and demonstrates the vital role collective bargaining has to play in shaping the future of AI in the creative industries.
“Performers and creative workers cannot accept a future where their voices, images and performances are scraped, replicated and monetised without their knowledge, consent or remuneration. This agreement establishes an important principle: technology should support and enhance human creativity, not replace or exploit it.
“At the same time, the agreement recognises that viewing habits and broadcasting models are changing rapidly. The new trial digital provisions create a framework to support the future growth of Welsh-language public service media across streaming and online platforms, while ensuring performers continue to share fairly in the value created by digital distribution.
“This agreement strengthens pay, improves workplace protections, expands inclusion measures and creates an important framework for the future of Welsh-language production in the digital age.”
Llyr Morus, TAC Chair said:
“I am delighted that Equity members have voted unanimously to adopt the new TAC Equity Agreement. This will set a clear and practical structure moving forward building on the trust between performers and producers. The agreement provides a workable framework for linear and digital commissioning enabling S4C to meet its multi-platform strategy. I am extremely grateful to the TAC’s Rights Committee for their hard work in the negotiation process and to Equity and S4C for their collaboration, ensuring that best practice is embedded in all of our processes across the Welsh language production sector.”
S4C's Chief Operating Officer, Elin Morris, said:
“This agreement marks an important step in our strategy of becoming a digital-first broadcaster. At S4C, we remain committed to supporting a sustainable, fair and forward-looking industry that continues to deliver high-quality content that satisfies the needs of audiences across viewing platforms. We look forward to working with our partners to ensure the successful implementation of these changes."
Aelodau Equity yng Nghymru yn Pleidleisio'n Unfrydol dros Gytundeb Teledu TAC Newydd Hanesyddol
Credir mai hwn yw un o'r cytundebau cyntaf yn y DU i gynnwys amddiffyniadau penodol ar gyfer defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) ym maes cynhyrchu teledu
Mae aelodau Equity sy'n gweithio o dan Gytundeb Teledu TAC/Equity wedi pleidleisio i fabwysiadu cytundeb newydd pwysig sy'n pennu cyfraddau tâl isafswm, telerau ac amodau ar gyfer perfformwyr sy'n gweithio ar gynyrchiadau a gomisiynir ar gyfer S4C.
Mae'r cytundeb diwygiedig, a drafodwyd rhwng Equity a Theledwyr Annibynnol Cymru (TAC) – y corff sy'n cynrychioli'r sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru – yn cynrychioli'r diweddariad mwyaf sylweddol i'r cytundeb ers blynyddoedd lawer ac yn adlewyrchu'r newidiadau mawr sydd wedi digwydd ym maes cynhyrchu teledu, dosbarthu digidol, arferion gwylio cynulleidfaoedd a thechnolegau newydd sy'n datblygu.
Cymeradwywyd y cytundeb gan aelodau Equity a oedd wedi gweithio o dan gytundeb TAC yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mewn pleidlais a agorodd ar 12 Mai ac a gaeodd ar 22 Mai 2026. Pleidleisiodd yr aelodau 100% o blaid mabwysiadu'r telerau newydd.
Bydd y cytundeb newydd mewn grym tan 31 Rhagfyr 2027, er y bydd cyfraddau tâl isafswm newydd ar gyfer 2027 yn dilyn trafodaethau sydd i ddechrau ym mis Awst 2026.
Gwelliannau newydd i berfformwyr
Mae'r cytundeb yn cynnwys yr hyn a gredir i fod yn un o'r cytundebau cydfargeinio cyntaf o'i fath yn y DU i sefydlu amddiffyniadau penodol ynghylch defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) mewn cynyrchiadau teledu.
Mae'r darpariaethau AI newydd yn egluro na ellir ail-greu, ailddefnyddio na manteisio'n ddigidol ar leisiau, delweddau na pherfformiadau perfformwyr heb ganiatâd gwybodus ymlaen llaw a diogelwch contractiol priodol. Mae'r cytundeb hefyd yn sefydlu mwy o dryloywder ynghylch defnyddio technolegau AI ac yn atgyfnerthu'r egwyddor y dylai technoleg gefnogi gwaith creadigol yn hytrach na thanseilio hawliau, bywoliaethau neu urddas perfformwyr.
Yn ogystal â'r amddiffyniadau hyn, mae'r cytundeb yn darparu cynnydd o 7.5% yn y ffioedd isafswm, a weithredwyd o fis Gorffennaf 2025 ymlaen, ynghyd â phecyn eang o welliannau i amodau gwaith, darpariaethau mynediad a chynhwysiant, pensiynau, darpariaethau agosatrwydd, a hawliau digidol.
Mae'r cytundeb diwygiedig hefyd yn cefnogi datblygiad parhaus cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus cyfrwng Cymraeg mewn amgylchedd digidol sy'n newid yn gyflym. Mae darpariaethau peilot newydd sy'n ymwneud ag argaeledd digidol estynedig ar lwyfannau fel S4C Clic, BBC iPlayer a sianeli ar-lein awdurdodedig yn sefydlu strwythurau talu wedi'u diweddaru sy'n adlewyrchu arferion gwylio sy'n newid a phwysigrwydd cynyddol ffrydio a gwylio ar alw.
Mae'r cytundeb yn cyflwyno fframwaith peilot dwy flynedd ar gyfer argaeledd digidol estynedig a chomisiynu cynnwys at ddefnydd digidol yn unig, gan greu trefniadau talu ar y cyd newydd tra'n galluogi Equity, TAC ac S4C i adolygu gyda'i gilydd sut mae'r modelau hyn yn gweithredu wrth i arferion defnydd cynulleidfaoedd barhau i esblygu.
Ymhlith y gwelliannau eraill mae:
- Amddiffyniadau a chanllawiau newydd ynghylch urddas yn y gwaith, mynediad a chynhwysiant
- Darpariaethau agosatrwydd a mesurau diogelu wedi'u diweddaru
- Amddiffyniadau cliriach ynghylch amodau arbennig ac oriau gwaith
- Trefniadau cyfraniadau pensiwn gwell
- Cydnabyddiaeth ffurfiol i Goreograffwyr a Chyfarwyddwyr Symud o fewn y cytundeb
- Darpariaethau cynaliadwyedd newydd sy'n cyd-fynd ag egwyddorion Green Rider Equity
Dywedodd Simon Curtis, Swyddog Cenedlaethol Equity dros Gymru:
"Mae'r cytundeb hwn yn gam sylweddol ymlaen i berfformwyr sy'n gweithio ar draws y sector cynhyrchu teledu yng Nghymru ac yn dangos y rôl hanfodol sydd gan gydfargeinio wrth lunio dyfodol deallusrwydd artiffisial yn y diwydiannau creadigol.
"Ni all perfformwyr a gweithwyr creadigol dderbyn dyfodol lle mae eu lleisiau, eu delweddau a'u perfformiadau yn cael eu copïo, eu hail-greu a manteisio'n fasnachol arnynt heb eu gwybodaeth, eu caniatâd na thâl priodol. Mae'r cytundeb hwn yn sefydlu egwyddor bwysig: dylai technoleg gefnogi a chyfoethogi creadigrwydd dynol, nid ei ddisodli na manteisio arno.
"Ar yr un pryd, mae'r cytundeb yn cydnabod bod arferion gwylio a modelau darlledu yn newid yn gyflym. Mae'r darpariaethau digidol peilot newydd yn creu fframwaith i gefnogi twf cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus cyfrwng Cymraeg ar lwyfannau ffrydio ac ar-lein yn y dyfodol, gan sicrhau bod perfformwyr yn parhau i gael cyfran deg o'r gwerth a grëir drwy ddosbarthiad digidol.
"Mae'r cytundeb hwn yn cryfhau tâl, yn gwella amddiffyniadau yn y gweithle, yn ehangu mesurau cynhwysiant ac yn creu fframwaith pwysig ar gyfer dyfodol cynhyrchu cyfrwng Cymraeg yn yr oes ddigidol."
Dywedodd Llyr Morus, Cadeirydd TAC :
“Rwy'n falch iawn bod aelodau Equity wedi pleidleisio'n unfrydol i fabwysiadu Cytundeb newydd TAC Equity. Bydd hyn yn gosod strwythur clir ac ymarferol wrth symud ymlaen gan adeiladu ar yr ymddiriedaeth rhwng perfformwyr a chynhyrchwyr. Mae'r cytundeb hwn yn cynnig fframwaith ymarferol ar gyfer comisiynu llinol a digidol gan alluogi S4C i wireddu ei strategaeth aml-blatfform. Rwy'n ddiolchgar iawn i Bwyllgor Hawliau TAC am y gwaith caled yn ystod y broses negydu ac i Equity a S4C am eu cydweithrediad, gan sicrhau bod arfer gorau yn cael ei osod yn ein prosesau ar draws y sector cynhyrchu Cymraeg.”
Meddai Elin Morris, Prif Swyddog Gweithredu S4C:
"Mae'r cytundeb yma yn gam pwysig yn ein strategaeth o fod yn ddarlledwr digidol yn gyntaf.
Mae S4C wedi ymrwymo i gefnogi diwydiant cynaliadwy, teg ac uchelgeisiol sy’n parhau i ddarparu cynnwys o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion cynulleidfaoedd ar draws llwyfannau gwylio. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i sicrhau gweithrediad llwyddiannus o'r newidiadau yma.”